Codi Cymry Creadigol

Rhaglen Cyfarwyddwyr a Chynhyrchwyr

 
 

Rhaglen datblygu artistiaid blwyddyn o hyd gyda thâl yw Codi Cymry Creadigol, sy’n canolbwyntio ar gefnogi’r genhedlaeth nesaf o bobl greadigol o bob oed ar ddechrau eu gyrfa sy’n byw neu’n dod o bob rhan o Gymru.  

Ar hyn o bryd, mae diffyg cynrychiolaeth amrywiol ym myd y theatr a’r celfyddydau. Mae’r rhaglen hon yma i newid hynny. Byddwn ni’n cefnogi deg cyfarwyddwr a deg cynhyrchydd i gymryd y camau nesaf yn eu gyrfa.  

Mae dwy ffrwd ar wahân i’r rhaglen hon: un ar gyfer cyfarwyddwyr, ac un ar gyfer cynhyrchwyr. Mae’n bosib nad oes gennych lawer o brofiad, ond eich bod yn angerddol i ddysgu mwy. Mae’n bosib fod gennych rywfaint o brofiad, ond eich bod yn teimlo fel petaech chi ar ddechrau eich taith ac y gallech elwa ar gymorth gyda’ch datblygiad proffesiynol.  

Mae’r rhaglen cyfarwyddwyr yn ymwneud â rôl y cyfarwyddwr ym myd y theatr a’r celfyddydau; gweithio gyda thimau creadigol, gan gynnwys cynllunio a symud; cysyniadau creadigol; gwneud cynigion; gweithio gydag actorion; hygyrchedd; prosesau technegol; gwaith safle-benodol; cyd-greu; theatr gig; a chymaint mwy. Bydd y sesiynau’n cynnwys dosbarthiadau meistr gyda chyfarwyddwyr a chwmnïau theatr adnabyddus.  

 
 

Mae’r rhaglen cyfarwyddwyr yn ymwneud â rôl y cynhyrchydd ym myd y theatr a’r celfyddydau; ysgrifennu ceisiadau am gyllid; gweithio gyda thîm creadigol; creu cyllidebau cynhyrchu; contractio gweithwyr llawrydd ac actorion; trafod a llywio perthnasoedd proffesiynol; cydweithio gyda phenaethiaid adrannau mewn sefydliadau celfyddydol mawr; asesu risg a rheoli risg ym myd y theatr a’r celfyddydau; rhagweld problemau posib yn y dyfodol; addasu i newidiadau a dod o hyd i ddatrysiadau creadigol. Bydd y sesiynau’n cynnwys dosbarthiadau meistr gyda chynhyrchwyr blaenllaw a chwmnïau theatr adnabyddus. 

 
 

Bydd y cyfarwyddwyr a’r cynhyrchwyr yn cydweithio drwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys creu a chynnal dau brosiect: dramâu sain safle-benodol a gŵyl yn Stiwdio Weston Canolfan Mileniwm Cymru. Bydd y cyfranogwyr yn cydweithio gyda chynllunwyr perfformiadau o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Bydd hwn yn brofiad ymarferol yn creu gwaith o safon broffesiynol a fydd yn cael ei ddogfennu a’i hyrwyddo gan Gylchgrawn Buzz

Yn Llundain, fe elwais i ar raglenni fel Rhaglen Cyfarwyddwyr y Young Vic a Chyfarwyddwyr Artistig y Dyfodol gan Up Next. Heb y mentrau yma fyddwn i ddim yn Gyfarwyddwr Artistig heddiw. Yng Nghymru, hyd y gwn i, does dim byd ar y raddfa yma wedi bodoli o ran Rhaglenni Datblygu ar gyfer Cyfarwyddwyr a Chynhyrchwyr. Mae’r ffaith ein bod ni’n talu cyfranogwyr yn ein gosod ni ar wahân i lawer o fentrau datblygu eraill hefyd. Rydw i’n llawn cyffro am ddyfodol y byd celfyddydau a theatr yng Nghymru, ac yn gwybod y bydd y rhaglen yma, a fydd yn parhau’n hirdymor gobeithio, yn gam pwysig yn ecoleg y sector, gan sicrhau ei fod yn dod yn fwy amrywiol a chynrychioliadol o’n byd cyfoes.
— Sita Thomas, Cyfarwyddwr Artistig - Fio

Pa mor hir yw’r prosiect a ble caiff ei gynnal?

Bydd y rhaglen yn rhedeg o fis Mai 2022 tan fis Mai 2023. Cynhelir y sesiynau tair awr o hyd unwaith y mis yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Mae’n bosib y bydd y sesiynau’n cael eu cynnal ar-lein os bydd angen. Bydd sesiynau mentora 1:1 ychwanegol drwy gydol y flwyddyn, a chyfnodau ymarfer a chynhyrchu ychwanegol ar gyfer y prosiect drama sain a’r ŵyl.

Ar gyfer pwy mae’r fenter?

Os ydych chi’n teimlo eich bod wedi’ch tangynrychioli ar hyn o bryd ym myd y theatr a’r celfyddydau yng Nghymru, yna mae’r cyfle yma i chi! Os ydych chi’n uniaethu ag unrhyw grŵp â nodweddion gwarchodedig, gan gynnwys ethnigrwydd, dosbarth, rhywedd, rhywioldeb, anabledd, yna rydyn ni yma i chi. Rydyn ni’n croesawu siaradwyr Cymraeg a defnyddwyr Iaith Arwyddion Prydain. Dylai cyfranogwyr fod yn byw neu’n dod o Gymru. 

Mae’r rhaglen hon ar gyfer unrhyw un sy’n ystyried eu bod ar ddechrau eu gyrfa, sy’n cynnwys pobl o bob oed dros 18 oed. 

Pwy sy’n rhan ohoni?

Crëwyd y rhaglen gan Sita Thomas, Cyfarwyddwr Artistig Fio. Sita fydd yn arwain y ffrwd cyfarwyddwr. Y cynhyrchydd Tom Bevan fydd yn arwain y ffrwd cynhyrchwyr. Bydd y cynhyrchydd Jasmine Okai yn cefnogi’r rhaglen yn gyffredinol. Bydd ymarferwyr llawrydd yn hwyluso’r sesiynau, ynghyd â mentoriaid o’r diwydiant.  

Partneriaeth rhwng Fio a Chanolfan Mileniwm Cymru yw hon, gyda chefnogaeth gan Stage Directors UK, Stage One, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, a Chylchgrawn Buzz.  

Mae’r cyfleoedd i ddatblygu fel Cynhyrchydd yn brin yng Nghymru, ac rwy’n gwybod y bydd y cynllun yma’n denu amrywiaeth o bobl ledled y wlad, sy’n gyffrous iawn. Mae angen i sîn gelfyddydol Cymru adlewyrchu’r bobl sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru, ac rydw i’n credu’n gryf na ddylai cyfleoedd hyfforddi fel hyn ddod â chost i’r bobl sy’n cymryd rhan, ac felly rydw i’n falch ein bod ni’n gallu talu pawb sy’n dod i’r sesiynau. Byswn i wedi elwa’n aruthrol o raglen fel hyn pan o’n i’n dechrau arni. Gobeithio y bydd pawb sy’n cymryd rhan yn gadael Codi Cymry Creadigol yn gynhyrchydd mwy medrus, gyda rhwydwaith cyfan o wneuthurwyr theatr eraill ar ddechrau eu gyrfa yn gysylltiadau iddynt.
— Tom Bevan, Chynhyrchwyr

Sut galla i gymryd rhan, a sut mae gwneud cais?

Llenwch y ffurflen fer ganlynol ar gyfer y rôl o’ch dewis: 

Rydyn ni’n croesawu ceisiadau yn y ffurf sydd fwyaf addas i chi. A fyddech cystal ag ateb y cwestiynau un ai yn ysgrifenedig, neu drwy lanlwytho fideo neu glip sain. Rydyn ni’n hapus i gynnig cefnogaeth a allai fod ei hangen arnoch chi i wneud cais, cysylltwch â ni os hoffech gymorth. Rydyn ni’n croesawu ceisiadau yn Gymraeg ac yn Iaith Arwyddion Prydain. 

Cwblhewch y ffurflen fonitro fer ganlynol hefyd:

Dyddiad cau: Cyflwynwch eich ffurflen gais a monitro erbyn 10yb ddydd Llun 4 Ebrill

Byddwn ni’n tynnu rhestr fer ac yn cynnal cyfweliadau yn ystod yr wythnos yn dechrau 11 Ebrill, ac yn rhoi gwybod i’r ymgeiswyr am y canlyniad erbyn 19 Ebrill.  

Bydd y cyfranogwyr yn cael eu talu

Mae’r rhaglen ddatblygu hon yn gwbl rhad ac am ddim, a byddwn ni’n talu £50 i gyfranogwyr am fynychu pob sesiwn fisol 3 awr. Mae bwrsariaethau teithio a chostau cymorth mynediad hefyd ar gael.

Llesiant

Ndidi John yw Cydymaith Llesiant Fio a Chydymaith Creadigol Canolfan Mileniwm Cymru. Bydd hi’n gweithio drwy gydol y rhaglen, yn cynnig cefnogaeth i bob cyfranogwr gyda sesiynau grŵp a sesiynau un i un. Nawr, yn fwy nag erioed, wrth i ni ddod trwy’r pandemig, mae iechyd meddwl a lles yn hollbwysig, ac rydyn ni’n ymroddedig i ofalu am ein hunain a phawb rydyn ni’n gweithio gyda nhw.

Mae gen i gwestiynau...

Os oes gennych gwestiynau pellach, bydden ni’n falch iawn o glywed gennych chi. Bydd ein cynhyrchydd Jasmine yn hapus i ymateb i e-byst, siarad ar y ffôn, neu drefnu i’ch cefnogi sut bynnag sydd orau gennych chi.  

  

Byddwn ni’n cynnal sesiwn Zoom ddydd Llun 14 Mawrth 7-8pm lle bydd Sita, Tom a Jasmine yn cynnal gofod agored i unrhyw un allu dod yno i gwrdd, gofyn cwestiynau, a dod i adnabod ei gilydd cyn gwneud cais. I gofrestru ac i gael y ddolen Zoom, anfonwch e-bost at Jasmine.


Mae Codi Cymry Creadigol yn bartneriaeth rhwng Fio a Chanolfan Mileniwm Cymru, gyda chefnogaeth gan Stage Directors UK, Stage One, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, a Buzz Culture.